Castell Dolwyddelan
Click here for English version of this page website link
Castell Dolwyddelan
Cestyll a mynyddoedd. Dolwyddelan ac Eryri. Cymheiriaid perffaith. Mae gwella ar waith natur yn haws dweud na gwneud ond maer castell hardd hwn ai gartref creigiog yn cydblethun wych. Maer diolch am hynny i Dywysog Gwynedd yng Ngogledd Cymru a llywodraethwr y rhan fwyaf o Gymru, Llywelyn Fawr.

Roedd Llywelyn ab Iorwerth (1173-1240), fel yi gelwid hefyd, yn adnabod ei filltir sgwâr yn well nag unrhyw un. Roedd Dolwyddelan, ynghyd â Dolbadarn a Phrysor, yn ffurfio casgliad o gadarnleoedd allweddol yn y mynyddoedd a oedd yn strategol bwysig i lywodraethwr Cymru. Ar ôl cyfnod Llywelyn, trosglwyddwyd y castell iw wyr Llywelyn ap Gruffudd. Llwyddodd yntau i atal lluoedd Edward am gyfnod.

Yn ddiweddarach, ychwanegodd Llywelyn lenfur syn amgylchynur iard at y gorthwr mawreddog. Aeth y Saeson ymlaen i ail-atgyfnerthur castell ac ychwanegwyd twr hirsgwar arall. Ni fu mor llwyddiannus âr cyntaf. Efallai fod cyfiawnder wedir cwbl olion yn unig a welir or twr hwn heddiw.

Gydag ychydig gymorth pobl Oes Fictoria iw hadfer, maer gaer hon or 13eg ganrif bellach yn gampwaith.
Ystadegau Castell Dolwyddelan: 0 click throughs, 543 views since 26-Aug-2008
Atyniad › Conwy
Pris Mynediad
- Oedolion £2.70 Gostyngiadau £2.30
- Teulu £7.70
Ameroedd Agor
01.04.08 - 30.09.08: 10.00 - 17.00 Llun - Sadwrn, 11.30 - 16.00 Sul 01.10.08 - 31.03.09: 10.00 - 16.00 Llun - Sadwrn, 11.30 - 16.00 Sul Weithiau bydd y safle ar agor ond heb ei staffio ac ni chodir tâl mynediad.

-
Castell DolwyddelanConwy LL46 2YH UKphone: 01690 750366 fax:Ein Gwefan Ni
Newyddion a Chynnigion Arbennig


